translate

translate

i PENNOD 1. . yN sicr ddigon mae Seryddiaeth

yn un O’r pennaf a ‘r hynaf O’r gwyddoniaethau ; yn

efrydiaeth sydd yn synnu ac yn swyno pob un a ymaflo

ynddi. Mae yn wyddoniaeth fawr, éang, ddofn, ac aruchel ; y

cyfryw fel nas gallwn mewn cyfrol fel hon ond braidd

gyffwrdd å’i hymylon. Nid yw y seryddwyr pennaf ond megis

ar draeth y mar dihysbydd hwn o wybod- aeth—yn casglu

cregin ; ond maent yn dal i gasglu, a gwobrwyir eu

harnynedd a’u dyfal- barhad, yn awr ac eilwaith, gan ryw

ddargan- fyddiad newydd. Dywedai Laplace wrth farw mai

ychydig yw’r hyn a wyddom, ond fod yr hyn nas gwyddom yn

anfesuradwy. Ofnaf fod rhai yn tybied mai rhyw destun sych

ac anniddorol enbyd yw Seryddiaeth, ond, credwch fl, nid yw

na sych nac anniddorol, ond yn hollol i ‘r gwrthwyneb.

Credaf fod bron bob dyn i ryw raddau yn reddfol yn

seryddwr,

24 Seryddiaeth a Seryddwyr ac mae’n syndod fod y mwyafrif

; Welsh Astronomer

drosto ei hun o hynny allan. Gofidiai Thomas Carlyle yn

fawr, yn ei hen ddyddiau, am na fuasai rhywun wedi dysgu

iddo ym more oes enwau y cytserau (constellations), a’i

wneud i deimlo’n gartrefol gyda’r wybren serennog. (Jn O’n

hamcanion pennaf yn y gyfrol hon yclyw cywiro y diffyg hwn,

ac i helpu pob un a’i darllenno i osgoi gofid Carlyle.

Hyderwn na fydd yn edifar gan neb a’n canlyno i ddiwedd y

gyfrol ei fod wedi gwneud yr ymgais, ac y bydd yr efrydiaeth

wedi profi yn foddion i ryw raddau i éangu terfyngylch ei

syniadau am ehangder diderfyn y Greadigaeth, ac, mewn

canlyniad, ei dynnu yn nes at%rglwydd y bydysawd.

;