translate
i PENNOD 1. . yN sicr ddigon mae Seryddiaeth
yn un O’r pennaf a ‘r hynaf O’r gwyddoniaethau ; yn
efrydiaeth sydd yn synnu ac yn swyno pob un a ymaflo
ynddi. Mae yn wyddoniaeth fawr, éang, ddofn, ac aruchel ; y
cyfryw fel nas gallwn mewn cyfrol fel hon ond braidd
gyffwrdd å’i hymylon. Nid yw y seryddwyr pennaf ond megis
ar draeth y mar dihysbydd hwn o wybod- aeth—yn casglu
cregin ; ond maent yn dal i gasglu, a gwobrwyir eu
harnynedd a’u dyfal- barhad, yn awr ac eilwaith, gan ryw
ddargan- fyddiad newydd. Dywedai Laplace wrth farw mai
ychydig yw’r hyn a wyddom, ond fod yr hyn nas gwyddom yn
anfesuradwy. Ofnaf fod rhai yn tybied mai rhyw destun sych
ac anniddorol enbyd yw Seryddiaeth, ond, credwch fl, nid yw
na sych nac anniddorol, ond yn hollol i ‘r gwrthwyneb.
Credaf fod bron bob dyn i ryw raddau yn reddfol yn
seryddwr,
24 Seryddiaeth a Seryddwyr ac mae’n syndod fod y mwyafrif
; Welsh Astronomer
drosto ei hun o hynny allan. Gofidiai Thomas Carlyle yn
fawr, yn ei hen ddyddiau, am na fuasai rhywun wedi dysgu
iddo ym more oes enwau y cytserau (constellations), a’i
wneud i deimlo’n gartrefol gyda’r wybren serennog. (Jn O’n
hamcanion pennaf yn y gyfrol hon yclyw cywiro y diffyg hwn,
ac i helpu pob un a’i darllenno i osgoi gofid Carlyle.
Hyderwn na fydd yn edifar gan neb a’n canlyno i ddiwedd y
gyfrol ei fod wedi gwneud yr ymgais, ac y bydd yr efrydiaeth
wedi profi yn foddion i ryw raddau i éangu terfyngylch ei
syniadau am ehangder diderfyn y Greadigaeth, ac, mewn
canlyniad, ei dynnu yn nes at%rglwydd y bydysawd.
;